Grŵp o artistiaid a chrefftwyr sy’n seiliedig yn Sir Fflint a Sir Ddinbych, yng Ngogledd Cymru yw’r Clwydian Creatives. Bob blwyddyn rydym yn trefnu Llwybr Celf Clwydian Creatives, digwyddiad stiwdio agored am ddim, lle caiff ymwelwyr ymgysylltu hefo’r artistiaid, gweld arddangosiadau byw a dod o hyd i ysbrydoliaeth. Bydd y stiwdios sy’n cymryd rhan yn eich croesawu i drafod eu gwaith a chynnig mewnweliad i’w proses creadigol. Mae’r digwyddiad yma yn cynnig cyfle unigryw i bicio tu ôl i len y byd celf, gofyn cwestiynau, casglu awgrymiadau a thanio’ch creadigrwydd.
Lleolir y stiwdios mewn gwahanol fannau, gan gynnwys tai preifat, neuaddau gymunedol a stiwdios annedd bwrpas.
Os ydych eisiau cyfarwyddiadau neu wybodaeth mynediad, cysylltwch a’r stiwdio unigol os gwelwch yn dda. I gynllunio’ch taith cyfeiriwch at y siart a’r map o’r llwybr.
Amdanom
Dyddiadau’r Llwybr Celf 2024
6ed, 7ed, & 8ed Mis Medi
13eg, 14eg, & 15ed Mis Medi
20ed, 21ain, & 22ain Mis Medi
27ain, 28ain, & 29ain Mis Medi
Hanes
Mae Llwybr Celf y Clwydian Creatives wedi dod yn ddigwyddiad artistic arwyddocaol ers ei ffurfio yn 2021 gan Sharon Wagstaff a Carol Udale. Daeth y Llwybr yma i’r amlwg fel ymateb at ddiwedd ‘Helfa Gelf’, a fu’n ddigwyddiad celf amlwg yng Ngogledd Cymru am fwy na degawd.
Tra fo’r Llwybr Celf yn canolbwyntio ar rhanbarthau Sir Fflint a Sir Ddinbych, mae’n ehangu ac yn ffynnu’n gyson bob blwyddyn.
Mae’r Llwybr Celf yma wedi llenwi’r gwagle a adawyd gan ei rhagflaenydd, gan ddeni artistiaid a hefyd charwyr celf. Gyda’i phoblogrwydd gynyddol, mae Llwybr Celf y Clwydian Creatives wedi dangos ei allu i barhau a ffynnu, gan ei wneud yn ddigwyddiad hanfodol i bawb sydd a diddordeb mewn profi sîn celf bywiog Gogledd Cymru.
clwydian.creatives@gmail.com
Socials
Subscribe
Sign up to our mailing list to receive information about future events. If you would like to take part next year and open your studio, join the mailing list as a participant to receive joining instructions as soon as applications are open.