Cydweithfa o artistiaid a chrefftwyr talentog sy’n seiliedig yn Sir Fflint a Sir Ddinbych yw’r Clwydian Creatives. Rydym yn angerddol ynglyn â chreu gweithiau celf unigriw ag ysbrydoledig sy’n adlewyrchu harddwch ein hamgylchoedd a threftadaeth diwyllianol ein hardal.

Llwybr Celf Clwydian Creatives

Profwch hud Llwybr Celf Clwydian Creatives, digwyddiad stiwdio agored flynyddol lle gewch y cyfle i gwrdd â’r artistiaid, gweld eu arddangosiadau a chysylltu â’u proses creadigol.

Lleolwyd y stiwdios mewn amrywiaeth o leoliadau fel tai preifat, cannolfannau gymunedol neu stiwdios annedd bwrpas. Os ydych yn ansicr am y cyfeiriadau neu wybodaeth mynediad, cysylltwch â’r stiwdio unigol am gymorth. I wneud y gorau o’ch Llwybr Gelf, defnyddiwch y map o’r Llwybr i drefnu’ch taith.

Arddangosfeydd

Yn 2023 cynhaliwyd arddangosfa agoriadol Y Clwydian Creatives yn Gallery 22 yng Nghaer. Roedd yn olygfa wirioneddol nodedig i weld y cydweithio a’r uniad rhwng gymaint o aelodau talentog o dan yr un tô. Bu’r digwyddiad yn lwyddiant llwyr, gan arddangos amrywiaeth eang o waith celf a mynegiant creadigol. Gwasanaethodd yr arddangosfa fel platfform i ddathlu’r talent enfawr o fewn cymuned y crewyr, ac yn ddarpariaeth i’r artisiaid i gysylltu, ysbrydoli a dysgu oddi wrth ei gilydd. Mae’r ymateb llethol a’r adborth positif gan yr ymwelwyr wedi’n gadael yn edrych ymlaen gydag awch a brwdfrydedd am arddangosfeydd yn y dyfodol. Rydym yn gyffroes i barhau i hybu a magu ymdrechion artistig y Clwydian Creatives, ag i greu mwy o gyfleoedd am fynegiant artistig yn y blynyddoedd i ddod.